Skip to main content

BA (Anrh) Rheolaeth Busnes (Cyfrifeg/Marchnata) Ychwanegol

Amser-llawn
Lefel 6
UoSW
Sketty Hall
Un flwyddyn

Ffôn: 01792 284098   E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol De Cymru

Logo Prifysgol De Cymru

Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes wedi ennill HND, Gradd Sylfaen neu gymhwyster cyfwerth. Bydd y cwrs atodol hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr gael gradd bagloriaeth lawn. 

Mae dau lwybr i ddewis o’u plith ar y cwrs BA (Anrh) Rheoli Busnes (Ychwanegol). Gallwch ddewis arbenigo mewn Cyfrifeg neu Farchnata. Mae’r llwybr Cyfrifeg yn ffordd wych o gynyddu’ch cyflogadwyedd gyda gwybodaeth cyfrifeg arbenigol yn sylfaen i sgiliau busnes hanfodol. Mae’r llwybr Marchnata yn cynnig cipolwg ar ddatblygiadau ym maes marchnata a bydd yn rhoi cyfle i chi archwilio'n feirniadol ymarfer marchnata a’i berthnasedd mewn busnes cyfoes.

DS – Nid oes angen i fyfyrwyr CGA sy’n astudio cwrs HND Rheoli Busnes wneud cais drwy UCAS. Bydd ceisiadau’n cael eu gwneud drwy ffurflen gais fewnol ar-lein.

Gwybodaeth allweddol

Cwblhau HND neu gymhwyster cyfwerth yn llwyddiannus h.y. Gradd Sylfaen.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu trwy seminarau rhyngweithiol gyda chymorth adnoddau ar-lein. Bydd astudiaethau achos bywyd go iawn, diweddar yn cael eu defnyddio i’ch helpu chi i ddysgu a sicrhau bod eich astudiaethau mor berthnasol â phosibl i’r gweithle.

Modules

Modiwlau craidd Lefel 6 (llwybrau cyfrifeg a marchnata):

  • Rheolaeth gymhwysol
  • Ymchwil busnes: egwyddorion ac ymarfer
  • Prosiect rheolaeth
  • Statageth busnes.

Modiwlau Lefel 6 (llwybr cyfrifeg):

  • Egwyddorion cyllid corfforaethol
  • Egwyddorion cyfrifeg.

Modiwlau Lefel 6 (llwybr marchnata):

  • Rhagoriaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid
  • Strategaeth marchnata omnisianel.

Asesu

Asesir y cwrs trwy aseiniad, cyflwyniad, astudiaeth achos, arholiad a phrosiectau ymchwil.

Astudiaeth ôl-raddedig megis MBA ym Mhrifysgol De Cymru.

Costau’r cwrs

£9,000* y flwyddyn, amser llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 tuag at hyn ar gyfer cyrsiau amser llawn.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Ffioedd ychwanegol

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

Achredu Dysgu Blaenorol (APL)

Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu cael cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol.  Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch fod hyn yn berthnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

*Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.