Skip to main content

HND Peirianneg Fecanyddol

Amser-llawn
Lefel 5
UoWTSD
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Logo Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae ein cwrs HND Peirianneg Fecanyddol Lefel 5 yn agor y drysau i amrywiaeth o gyflogwyr lleol gan roi sgiliau lefel uwch i chi a ofynnir gan ddiwydiant lleol.

Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd o werth mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Amlygir y rhain gan Sgiliau Allweddol Lefel Uwch yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm ac maen nhw’n cynnwys datrys problemau, cyfathrebu, a gweithio gydag eraill, yn ogystal â defnydd effeithiol o gyfleusterau TG cyffredinol a sgiliau adalw gwybodaeth. Maen nhw hefyd yn cynnwys cynllunio hunan-ddysgu a gwella perfformiad, fel sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes.

Nod y cwrs hwn yw datblygu myfyrwyr trwy roi’r sgiliau iddynt weithio ym maes peirianneg fecanyddol, a’r gallu i ddatrys problemau peirianneg, dylunio systemau ac ati trwy feddwl yn greadigol ac yn arloesol.

Byddai disgwyl i fyfyrwyr sy’n graddio o’r rhaglenni arfaethedig ddangos y sgiliau canlynol:

  • Y gallu i gymhwyso offer mathemategolT, gwyddonol a thechnolegol  
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli data a, phan fydd angen, dylunio arbrofion i gael data newydd  
  • Y gallu i gynnal ymagwedd ddamcaniaethol gadarn er mwyn cyflwyno technoleg newydd  
  • Y gallu i gymhwso barn broffesiynol, gan gydbwyso materion costau, buddion, diogelwch, ansawdd ac ati  
  • Y gallu i asesu a rheoli risgiau.

Gwybodaeth allweddol

  • Safon Uwch - DD/EEE
  • Diploma Mynediad i AU - Pasio
  • BTEC Diploma Lefel 3 – PPP
  • EAL Diploma Estynedig Lefel 3 – Pasio.

A gradd C mewn Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth ar lefel TGAU.

Modiwlau

Blwyddyn gyntaf - Lefel 4

  • Mathemateg
  • Cymwysiadau a Sgiliau Astudio Peirianneg
  • Defnyddiau a Chyflwyniad i Dechnoleg Gweithgynhyrchu
  • Gwyddor Peirianneg 1
  • Gwyddor Peirianneg 2
  • Peirianneg Dylunio.

Ail flwyddyn - Lefel 5

  • Prosiect Grŵp
  • Canfod Namau a Monitro Cyflwr
  • Egwyddorion Peirianneg Fecanyddol
  • Rheolaeth, Arloesedd a Chynaliadwyedd
  • Gweithgynhyrchu, Dylunio a Thechnoleg
  • Mecaneg Thermohylif.

Asesu

Asesir myfyrwyr trwy gyfuniad o ddulliau asesu:

  • Gwaith cwrs
  • Arholiad ysgrifenedig.

Gall y cymhwyster Peirianneg Fecanyddol hwn arwain at amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth ym meysydd ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Gall myfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs BEng ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hefyd.

Costau’r cwrs

£9,000* y flwyddyn, amser llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 tuag at hyn ar gyfer cyrsiau amser llawn.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Hyd y cwrs

Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd ar Gampws Tycoch.

Ffioedd ychwanegol

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

Achredu Dysgu Blaenorol (APL)

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS.

* Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan PCDDS i gael rhagor o wybodaeth.