Skip to main content

Arwain Tîm (Sefydliad Rheolaeth Siartredig) Lefel 2 - Tystysgrif

GCS Training
Lefel 2
CMI
Llys Jiwbilî
Naw mis.
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn cynnig ymagwedd hyblyg at ddysgu ac fe’i cynlluniwyd ar gyfer arweinwyr tîm gweithredol neu ddarpar arweinwyr tîm sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae’r cymhwyster hwn yn fan cychwyn da ar gyfer eich taith gyrfa.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ddysgwyr fod yn arweinwyr tîm newydd neu ddarpar arweinwyr tîm.

Bydd gan bob dysgwr diwtor/asesydd dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda dysgwyr a chyflogwyr i sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn addas i’w rolau unigol, eu blaenoriaethau sefydliadol ac yn bodloni gofynion y cymhwyster. Gellir darparu’r cymhwyster o bell neu gall y tiwtor/asesydd ymweld â’r dysgwr bob 4-6 wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r asesydd.

Unedau

  • Bod yn arweinydd tîm
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid
  • Monitro perfformiad tîm
  • Meithrin perthnasoedd gwaith
  • Datblygu anghenion tîm

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, mae’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn argymell y cymhwyster canlynol:

  • Rheolaeth Llinell Gyntaf Lefel 3 – Cymwysterau

Cymorth Astudio

Bydd gan ddysgwyr fynediad i Management Direct, llyfrgell ar-lein gynhwysfawr am ddim sy'n cynnwys y deunydd diweddaraf sy'n mynd i'r afael ag arferion rheoli cyfredol. Mae’r adnoddau hefyd yn hwyluso’r broses o astudio ar gyfer unigolion sy’n dymuno gwella eu sgiliau.