Skip to main content

Diploma NVQ (City & Guilds) mewn Ymarfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 6
C&G
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth reoli iechyd a diogelwch yn y gweithle. 

Bydd gan ddysgwyr gyfrifoldeb dros reoli polisi ac arferion iechyd a diogelwch eu sefydliad a byddant yn adrodd yn uniongyrchol i’r tîm rheol uwch neu yn rhan o’r tîm hwnnw. Byddant hefyd yn ymwybodol o gost y cwrs a rheolaethau cyllidebol.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, fodd bynnag, byddwn yn trefnu cyfarfod byr i drafod cynnwys y cwrs er mwyn gweithio allan pa lefel sy’n addas ar gyfer y dysgwr. 

Yn ystod y cyfarfod, byddwn yn trafod a fydd y dysgwr yn dangos y lefel ofynnol o gymhwysedd i gyflawni’r rôl, gan mai perfformiad yn y rôl yw’r brif sail ar gyfer asesu.

I gwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau’r unedau canlynol:

  • Gweithdrefnau iechyd a diogelwch mewn argyfwng
  • Archwiliadau Iechyd a diogelwch
  • Diwylliant iechyd a diogelwch iach o fewn sefydliad
  • Polisi iechyd a diogelwch o fewn sefydliad
  • Datblygiad proffesiynol a moeseg mewn ymarfer iechyd a diogelwch
  • Monitro systemau a rheoli risg
  • Strategaethau iechyd a diogelwch sefydliadol

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen i swyddi addas, cymwysterau IOSH arbenigol, addysg uwch neu’r cymwysterau City & Guilds yma:

  • NVQ mewn Rheoli Iechyd a Diogelwch - Lefel 6
  • Cymwysterau NVQ mewn Rheoli (ILM) 

Ffi’r cwrs hwn yw £2000, heb TAW.