Skip to main content

Gwyddoniaeth Gymhwysol HNC

Rhan-amser
Lefel 4
HNC
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau cemegol a chysylltiedig i lwyddo mewn cyflogaeth. Bydd dysgwyr yn datblygu ystod o sgiliau, technegau a phriodoleddau sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith.

Gwybodaeth allweddol

Un o’r canlynol:

  • Diploma Mynediad i AU – Pas
  • Safon Uwch – DD
  • BTEC Diploma Estynedig L3 – PPP
  • BTEC Diploma L3 90-Credyd – MM.

Gwyddorau Cymhwysol (Llwybr Cemeg)

Blwyddyn gyntaf

  • Uned 1: Hanfodion Technegau Labordy (Gorfodol)
  • Uned 2: Dulliau Gweithredu a Thechnegau Trin Data Gwyddonol (Gorfodol)
  • Uned 7: Cemeg Anorganig (Gorfodol)
  • Uned 8: Cemeg Organig (Gorfodol).

Ail flwyddyn

  • Uned 3: Rheoleiddio ac Ansawdd yn y Gwyddorau Cymhwysol (gosodir gan Pearson)
  • Uned 9: Cemeg Ffisegol 
  • Uned 64: Ymchwiliad Seiliedig ar Waith
  • Uned 73: Llygryddion Amgylcheddol a Phrofion Dŵr.

Dilyniant i radd mewn cemeg gymhwysol neu faes cysylltiedig.

Costau’r cwrs

£1,200* y flwyddyn, amser llawn.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Ffioedd ychwanegol

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

Achredu Dysgu Blaenorol (APL)

Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. 

* Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol.