Skip to main content
 

Coleg yn Cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau Hyfforddiant Prydain 2024

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cyrraedd y Rownd Derfynol yng Ngwobrau Hyfforddiant Prydain 2024.

Mae’r gwobrau yn dathlu’r sefydliadau a’r unigolion sy’n wirioneddol angerddol am rôl dysgu a datblygiad o ran adeiladu gweithlu ffyniannus.

Ac yntau wedi cyrraedd y Rownd Derfynol yng nghategori Darparwr Prentisiaeth y Flwyddyn y DU, mae Coleg Gŵyr Abertawe unwaith eto wedi cael ei ganmol am ei ymrwymiad i greu Prentisiaethau i Bawb, prentisiaethau sy’n gefnogol ac yn hygyrch. Yn ogystal, cafodd ei ganmol am ei ddull rhagweithiol o gynorthwyo prentisiaid ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol.

Eleni derbyniwyd ychydig dros 300 o geisiadau gan sefydliadau ledled y DU, ac felly roedd y gystadleuaeth i gyrraedd y Rownd Derfynol yn ffyrnig.

Mae’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yn amrywio o arloeswyr newydd i arwyr y sector cyhoeddus, sêr y byd technolegol, titaniaid byd-eang a phopeth rhyngddynt.

Wrth siarad am y gwobrau, dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni wrth ein bodd i gyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau Hyfforddiant Prydain. Yn ddiweddar, cawson ni’r fraint o ennill Gwobr Beacon Cymdeithas y Colegau ar gyfer Ehangu Cyfranogiad am ein gwaith yn y maes hwn, ac rydyn ni bellach yn falch iawn o fod ar restr fer Darparwr Prentisiaeth y Flwyddyn y DU.

“Mae’n ymdrech tîm, felly diolch a llongyfarchiadau i bawb dan sylw. Byddwn ni’n cael gwybod a ydyn ni wedi ennill yn y seremoni wobrwyo yn Llundain ar 19 Mehefin.”

Mae Beirniaid Gwobrau Hyfforddiant Prydain 2024 yn cynnwys:

  • Angela Davies, Pennaeth Dysgu a Datblygiad, AJ Bell
  • Marie Douvin, Pennaeth Dysgu a Datblygiad, itsu
  • Simi Dubb, Pennaeth Byd-eang Talent a DEI, Marchnadoedd a Gwasanaethau, Citi
  • Simon Gibson, Pennaeth Grŵp Dysgu a Datblygiad, Marks & Spencer
  • Jason Gowlett, Pennaeth Adnoddau Dynol, Lloyd’s
  • Keith McDougall, Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygiad, Deliveroo
  • Gemma Paterson, Pennaeth Diwylliant ac Arloesi, Lloyds Banking Group
  • Prachi Prasad, Pennaeth Byd-eang Arweinyddiaeth a Datblygiad Dysgu, dunnhumby
  • Jodie Pritchard, Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygiad, Barnardo's
  • Karen Suddards, Rheolwr Dysgu Byd-eang, Bentley Motors
  • Dr Paul Taylor-Pitt, Ymgynghorydd a Chyfarwyddwr Datblygu Sefydliadol, Metamorphosish
  • Karen Wilson, Cyfarwyddwr Byd-eang Datblygu Talent, Booking.com
  • Nate Harwood, Sylfaenydd, New Possible

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i https://newpossible.io/british-training-awards