Skip to main content

HND Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol i’r HNC)

Rhan-amser
Lefel 5
HND
Tycoch
Dwy flynedd

E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Logo Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae HND Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol i’r HNC) yn addas i’r rhai a hoffai gael gyrfa ym maes peirianneg drydanol/electronig, gyda chyfrifoldeb am ddylunio, gosod, comisiynu a gweithredu gwasanaethau peirianneg.

Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd o werth mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Amlygir y rhain gan Sgiliau Allweddol Lefel Uwch yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm ac maen nhw’n cynnwys datrys problemau, cyfathrebu, a gweithio gydag eraill, yn ogystal â defnydd effeithiol o gyfleusterau TG cyffredinol a sgiliau adalw gwybodaeth. Maen nhw hefyd yn cynnwys cynllunio hunan-ddysgu a gwella perfformiad, fel sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes.

Nod y cwrs hwn yw datblygu myfyrwyr trwy roi’r sgiliau iddynt weithio ym maes peirianneg fecanyddol, a’r gallu i ddatrys problemau peirianneg, dylunio systemau ac ati trwy feddwl yn greadigol ac yn arloesol.

Byddai disgwyl i fyfyrwyr sy’n graddio o’r rhaglenni arfaethedig ddangos y sgiliau canlynol:

  • Y gallu i gymhwyso offer mathemategolT, gwyddonol a thechnolegol  
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli data a, phan fydd angen, dylunio arbrofion i gael data newydd  
  • Y gallu i gynnal ymagwedd ddamcaniaethol gadarn er mwyn cyflwyno technoleg newydd  
  • Y gallu i gymhwso barn broffesiynol, gan gydbwyso materion costau, buddion, diogelwch, ansawdd ac ati  
  • Y gallu i asesu a rheoli risgiau.

Gwybodaeth allweddol

Fel rheol, dylai myfyrwyr feddu ar gymhwyster HNC gyda 120 credyd ar Lefel 4, o raglen gymeradwy.

Modiwlau

  • PLCs a Rheolaeth
  • Prosiect Grŵp
  • Prosesu Signal Digidol a Chyfathrebu
  • Rheolaeth, Arloesedd a Chynaliadwyedd
  • Pŵer Trydanol
  • Theori Egwyddorion Trydanol. 

Asesu

Asesir myfyrwyr trwy gyfuniad o ddulliau asesu:

  • Gwaith cwrs
  • Arholiad ysgrifenedig.

Gall y cymhwyster Peirianneg Drydanol ac Electronig hwn arwain at amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth ym meysydd ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a phreifat.

Gall myfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs BEng ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hefyd.

Costau’r cwrs

£2,100* y flwyddyn, rhan-amser.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Ffioedd ychwanegol

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

Achredu Dysgu Blaenorol (APL)

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS.

* Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan PCDDS i gael rhagor o wybodaeth.