Skip to main content
Adult Learning Partnership Swansea (ALPS) Logo

Adult Learning Partnership Swansea unveils new strategic plan

Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (PDOA) yn falch o lansio cynllun strategol newydd, gyda’r nod o drawsnewid addysg oedolion yn y gymuned leol.


Casgliad o sefydliadau blaenllaw yw PDOA sy’n gweithredu fel corff cynrychioliadol o addysg hygyrch o ansawdd uchel. Mae’r sefydliad yn diwallu anghenion ac uchelgeisiau amrywiol oedolion sy’n dysgu yn y gymuned leol. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru.


“Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n ymrwymedig i flaenoriaethau allweddol ac amcanion Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe,” meddai Kelly Fountain, Cadeirydd newydd y Bwrdd Partneriaeth Dysgu Oedolion. “Ar y cyd, gallwn edrych ymlaen at ddarparu profiadau dysgu ar draws ystod eang o feysydd pwnc, gan gynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr sy’n oedolion ledled Dinas a Sir Abertawe fel y gallant wella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u lles.”


Mae cynllun strategol PDOA yn seiliedig ar fframwaith o nodau a sbardunau sydd wedi’u cynllunio i lywio addysg oedolion at oes newydd o arloesedd a chynwysoldeb.


Yn ganolog i’r fframwaith hwn mae’r elfennau allweddol canlynol:

  1.  Cynnig Cwricwlwm Cydlynol: Nod PDOA yw diwallu anghenion unigol, lleol a chenedlaethol, gan wella cyfleoedd i oedolion sy’n dysgu a’u cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau.
  2. Hybu Gwelliant Parhaus: Mae PDOA yn hybu diwylliant o welliant parhaus a rhannu arferion gorau, gan ffocysu ar adborth dysgwyr a chyfleoedd dysgu proffesiynol.
  3. Grymuso Dysgwyr: Mae PDOA yn blaenoriaethu llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol, cyflogadwyedd a datblygiad sgiliau bywyd dysgwyr, gan hybu hyder a dysgu gydol oes.
  4. Iechyd a Lles: Nod PDOA yw creu amgylchedd dysgu diogel a chynhwysol, gan gydnabod manteision rhyngweithio cymdeithasol a darparu cymorth ar gyfer lles dysgwyr.


Meddai Beth John, Rheolwr Rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru ar gyfer De, Gorllewin a Chanolbarth Cymru: “Bwriad Cynllun Strategol PDOA defnyddio ymrwymiad diamod partneriaid y Bartneriaeth i sicrhau bod anghenion dysgu oedolion, ym mhob cymuned ar draws y Ddinas a’r Sir, yn cael eu diwallu, gan sicrhau cyfleoedd dysgu ystyrlon iddynt. Mae Addysg Oedolion Cymru yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda phartneriaid i sicrhau bod dysgu gydol oes yn ffynnu, a bod gan bob cymuned fynediad at arlwy cwricwlwm eang a chynhwysfawr sy’n cefnogi ac yn datblygu sgiliau unigolion, gan hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol.”

 Gellir dod o hyd i’r cynllun llawn ar Wefan ALPS.