Skip to main content
QSCS Logo

Coleg Gŵyr Abertawe yn cyflawni ailachrediad QSCS

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cyflawni ail-achrediad Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr (QSCS) Ffederasiwn y Gofalwyr, gan ddangos ei arferion da a’i ymrwymiad parhaus i ddysgwyr sydd hefyd yn oedolion ifanc sy’n gofalu.

Mae ail-achrediaid yn ofynnol bob tair blynedd ac mae hyn yn sicrhau bod y Coleg yn parhau i wella a datblygu’r ffordd y mae’n cynorthwyo oedolion ifanc sy’n gofalu, a lles myfyrwyr yn ei gyfanrwydd.

Hoffem ddiolch i’r holl staff am eu gwaith, eu hamser, a’u hymrwymiad i gyflawni ail-achrediad QSCS a’u ymroddiad i barhau i wella cymorth i oedolion ifanc sy’n gofalu.