Skip to main content
A person with a laptop smiling

Yn cyflwyno Sgiliau ar gyfer Abertawe: Cyrsiau am ddim i ailhyfforddi ac uwchsgilio

Gallwch wella eich cyfleoedd cyflogadwyedd trwy astudio cyrsiau am ddim gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

Ydych chi’n barod i ddarganfod cyfleoedd newydd a gwella eich sgiliau? Dyma bwrpas Sgiliau ar gyfer Abertawe, sef casgliad o gyrsiau am ddim* a ddarperir gan Goleg Gŵyr Abertawe ar gyfer unigolion sy’n byw neu yn gweithio yn Abertawe.

Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i ddysgu rhywbeth newydd i unigolion a gwellau eu sgiliau cyflogadwyedd. Mae’r prosiect yn cwmpasu ystod eang o gyrsiau am ddim sydd wedi’u teilwra i ddiwallu gofynion amrywiol yr economi leol.

Mae’r Coleg yn ymrwymedig i gefnogi unigolion 19+ ar eu taith tuag at ailhyfforddi ac uwchsgilio, a thrwy ein dealltwriaeth dda o’r dirwedd economaidd leol, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau er mwyn hybu sgiliau.

Rhestr o’r cyrsiau sydd ar gael:

  • Sgiliau Digidol
  • Marchnata Digidol
  • Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Asesu Risg
  • Ymwybyddiaeth Amgylcheddol
  • Ynni Gwyrdd a Chynaliadwyedd
  • Iechyd a Diogelwch
  • Cynnal a Chadw Beiciau
  • Rheoli Cyfleusterau

Rydym eisoes yn cynnig y cyrsiau uchod. Ewch i wefan y Coleg am ragor o wybodaeth ynglŷn â dyddiadau cychwyn y cyrsiau. 

Dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes Coleg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni’n falch iawn o gynnig y cyrsiau hyn sydd wedi’u cynllunio i uwchsgilio pobl fel y gallant achub y blaen yn y farchnad swyddi.

"Bydd cyrsiau’n cael eu cynnig ledled ein campysau yn ogystal ag yn y gymuned a’u bwriad yw helpu oedolion i ddatblygu eu sgiliau a goresgyn rhwystrau i gyfleoedd cyflogaeth newydd."

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau a restrir neu i gael atebion i unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: 

Cyfeiriad Ebost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk neu rhif ffôn: 01792 284400

Mae Sgiliau ar gyfer Abertawe ar gyfer unigolion 19+ sy’n byw neu yn gweithio yn Abertawe. 

Ariennir Sgiliau ar gyfer Abertawe gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a bydd yn darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025.