Skip to main content

HND mewn Rheoli Busnes

Amser-llawn
Lefel 4/5
UoSW
Tycoch, Sketty Hall
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol De Cymru

Logo Prifysgol De Cymru

Bwriad y cwrs yw rhoi amrywiaeth eang o wybodaeth a phrofiad i'r myfyrwyr yn y sectorau busnes ac ariannol. Er bod pwyslais ar feysydd cyllid, mae’n rhaglen amrywiol sy’n addas i fyfyrwyr a hoffai ddatblygu’r amrywiaeth lawn o sgiliau busnes. 

Gwybodaeth allweddol

  • Safon Uwch = DD
  • BTEC Diploma Estynedig L3 = PPP
  • BTEC Diploma L3 = MP
  • Mynediad = Pas
  • AAT3 = Pas.

Byddwn yn ystyried profiad gwaith perthnasol.

Modiwlau

Blwyddyn 1 - Lefel 4

  • Rheoli Gwybodaeth Ariannol
  • Bod yn Weithiwr Proffesiynol; Ymchwiliad Beiriniadol
  • Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes
  • Economeg, Y Gyfraith a’r Amgylchedd Busnes
  • Pobl, Gwaith a Chymdeithas
  • Marchnata ac Ymddygiad Prynwyr.

Blwyddyn 2 - Lefel 5

  • Rheoli Pobl mewn Gweithle Byd-eang
  • Cyfathrebu Marchnata Creadigol
  • Cyfrifeg i Reolwyr
  • Dadansoddi Busnes Strategol
  • Prosiect Ymchwil Byw
  • Y Gweithle Digidol.

Fel rhan o’r cwrs hwn mae opsiwn i fod yn dechnegydd cyfrifon cymwysedig trwy AAT.

Ni fyddai unrhyw ffioedd dysgu ychwanegol i astudio AAT Diploma Lefel 2/3 ochr yn ochr â’ch HND ym mlwyddyn un ac AAT Diploma Lefel 3/4 ym mlwyddyn dau, yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad blaenorol. 

Addysgir y cwrs dros dri diwrnod. Bydd rhaid i’r myfyrwyr sy’n dewis opsiwn AAT ddod am bedwar diwrnod. Mae opsiwn rhan-amser ar gael hefyd.

Ar ôl cwblhau, gall myfyrwyr symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs BA (Anrh) Rheoli Busnes yng Ngholeg Gwyr Abertawe neu fel arall gallent symud ymlaen i gyrsiau BA (Anrh) ym Mhrifysgol De Cymru. 

Costau’r cwrs

£7,000* y flwyddyn, amser llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 tuag at hyn ar gyfer cyrsiau amser llawn.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Hyd y cwrs

Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd ar Gampws Tycoch.

Ffioedd ychwanegol

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

Achredu Dysgu Blaenorol (APL)

Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol.

* Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan USW i gael rhagor o wybodaeth.